Athro/Athrawes (CAD) - Ysgol Gymunedol Neyland

Cyflogwr
Neyland Community School
Lleoliad
Milford Haven, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£33,731 - £51,942 + £2,838
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
16th Ebrill 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1538577
Cyfeirnod y swydd
Education
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1538577

Athro (M1–M6)

Canolfan Adnoddau Dysgu Cynradd

Lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol

Parhaol

I ddechrau 1 Medi 2026

Mae llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Neyland am benodi athro profiadol cymwysedig i weithio yng nghanolfan adnoddau dysgu newydd ein hysgol gynradd.

Rydym yn llawn cyffro i hysbysebu am aelod o staff i ymuno â’n tîm canolfan adnoddau dysgu gofalgar a chefnogol. Mae hwn yn gyfle anhygoel i fod yn rhan o ganolfan adnoddau dysgu newydd sbon.

Byddai disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at sefydlu tîm o weithwyr proffesiynol llawn cymhelliant a fydd yn cydweithio i godi safonau ar bob lefel. Rhaid i’r ymgeisydd greu amgylchedd meithringar, cadarnhaol, lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial. Bydd hyfforddiant arbenigol ar gael.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn ymarferwyr dosbarth rhagorol sydd yn gallu gwneud y canlynol:

Arwain a datblygu rhaglenni canolfan adnoddau arbenigol yn effeithiol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cymhleth

Gwahaniaethu a hwyluso dysgu i’r safonau uchaf

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phob dysgwr, eu teuluoedd, a thîm y ganolfan adnoddau dysgu

Creu amgylchedd dosbarth cefnogol, croesawgar a threfnus

Arddangos bod ganddynt yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwygiadau ADY a wnaed yn 2018 a’r cod ymarfer

Mae profiad addysg arbenigol yn ddymunol, yn ogystal â’r gallu i feithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol er mwyn sicrhau bod y ganolfan adnoddau dysgu yn gweithredu’n esmwyth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn cymhelliant, a chanddo ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu’r disgyblion.

Gallwn gynnig cymuned ysgol gynnes, feithringar sy’n seiliedig ar ethos cryf a chefnogaeth tîm o staff a llywodraethwyr ymroddedig a gweithgar. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o’r ymarfer yn ein hysgol ac i lywio’r ymarfer hwnnw.

Nododd ein harolygiad llwyddiannus diweddaraf gan Estyn (Mawrth 2023) lawer o gryfderau:

Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn fan lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cefnogi. Cryfder nodedig yn yr ysgol yw’r ethos gofalgar cryf a’r ymddiriedaeth a’r parch rhwng disgyblion a staff. Mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a’r gymuned leol. Mae’r ysgol yn darparu ystod gyfoethog, eang a chytbwys o brofiadau dysgu a darpariaeth ychwanegol.

Yn ein hysgol, rydym yn siarad am ‘fynd yr ail filltir’ ac yn dangos hyn yn weithredol i’n plant, ein teuluoedd a’n cymuned. Mae’n hollbwysig bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o hyn ac yn arddangos sgiliau i ddod yn rhan weithredol o’n hethos cadarnhaol a gofalgar wrth ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i’n disgyblion.

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y rôl, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r pennaeth

Edrychwch hefyd ar wefan ein hysgol a’n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ein hysgol effeithiol.

Dyddiad cau: 16 Ebrill

Llunio’r rhestr fer: 17 Ebrill

Arsylwi dosbarth: Dydd Mercher 29 Ebrill

Cyfweliadau (yn amodol ar wahoddiad yn dilyn arsylwi): Dydd Iau 30 Ebrill

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Neyland CPJM yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority