Athro/Athrawes Hanes

Cyflogwr
Ysgol Penglais School
Lleoliad
Aberystwyth, Ceredigion
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
33,731 - 51,942 (pro-rata)
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
6th Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1542106
Cyfeirnod y swydd
REQ106559
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1542106

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes Hanes rhagorol fydd yn gallu cefnogi datblygiad Hanes yn yr ysgol er mwyn sicrhau safonau uchel yn y pwnc.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ffynnu ar yr her o weithio gyda’n tîm o athrawon Hanes i sicrhau bod yr ansawdd dysgu ac addysgu yn gyson o safon dda a rhagorol; bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau Hanes yn ôl eu anghenion, a phob disgybl yn ymgyrraedd yn uchel ac yn datblygu eu hyder. Byddwch yn rwymedig i ddod o hyd i ddulliau cynhwysfawr sydd yn ysbrydoli disgyblion ac yn gwella cyfleoedd bywyd ein holl ddisgyblion.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i gynyddu uchelgeisiau a llwyddiannau ein disgyblion, ac felly yn cyfrannu at siwrnai Ysgol Penglais i fod yn ysgol ragorol.

Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:

  • ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
  • ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
  • agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
  • wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol

 Yr hyn a gynigwn

  •  Cydbwysedd bywyd a gwaith
  •  Cynllun cynilo ffordd o fyw
  •  Cynllun pensiwn cyflogwr hael
  •  Cynllun beicio i'r gwaith
  •  Dysgu a datblygu

Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 20fed Ebrill 2026

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Penglais School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.