Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru - Pen y Fai
Disgrifiad swydd
12.5 oriau yr wythnos
Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.
Yn ystod tymor yr ysgol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd Cynorthwyol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r cogydd i baratoi prydau bwyd ysgol. Byddwch yn cynorthwyo wrth hyfforddi a threfnu staff a byddai gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu cegin yn fantais.
Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Ebrill 2024
Cyfweliadau: 22 Ebrill 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Penyfai C In W Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.