Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad i’r swydd hon gael caniatâd gan eu rheolwr cyn cyflwyno cais.
Mae’r corff llywodraethu yn awyddus i benodi Cymhorthydd Cymorth Myfyrwyr hyderus a threfnus ar gyfer disgyblion blwyddyn 11. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hwyluso cymorth o ran ymyrraeth i athrawon gyda’r prif
ffocws ar bynciau craidd Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau penodol o fewn rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Rhyl High School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.