NEW

Athro/awes Cynradd

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athrawon (GCA)
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
26th Ebrill 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1545928
Cyfeirnod y swydd
REQ006219
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1545928

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym yn awyddus i benodi athro / athrawes brwdrydig, egniol ac ymroddgar i weithio fel rhan o dîm cynradd yr ysgol. Disgwylir medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog er mwyn gallu cydweithio gyda phlant, athrawon a rhieni'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi gweledigaeth gynhwysol a phlentyn-ganolog yr ysgol ac i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle. Credwn yn gryf bod profiadau bywyd go iawn yn rhan allweddol o daith addysg plentyn. Edrychwn am rywun a fydd yn barod i gyfrannu at ein darpariaeth allgyrsiol a chynnig profiadau amhrisiadwy, amrywiol a chyffrous i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Gofynnir i ymgeiswyr ymhelaethu ar eu gallu i gyfrannu at y meysydd a nodwyd yn eu llythyron cais.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:

  • Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes cynradd
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgu effeithiol
  • Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion a staff i gyflawni eu potensial
  • Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
  • Athro cymwysedig gyda gradd berthnasol
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr

Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn dydd Gwener 26ain o Ebrill.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans, Pennaeth


Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon. 

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.


Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA