Athro/awes Technoleg Bwyd

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athrawon (GCA)
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
3rd Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1545676
Cyfeirnod y swydd
REQ006214
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: Dros dro tan 31 Awst 2027
  • ID swydd: 1545676

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym yn awyddus i benodi athro neu athrawes bwyd a maeth effeithiol ac ymrwymedig i gyfrannu at ddatblygiad y maes hwn yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm maes iechyd a lles ac yn cyfrannu at addysgu ar draws yr ystod oedran.

Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a darparu gwersi effeithiol, monitro cynnydd disgyblion, a defnyddio ystod o strategaethau asesu i gefnogi dysgu a chynnydd. Disgwylir i’r athro neu’r athrawes gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus ac at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol a chydweithio â chydweithwyr i wella dysgu a lles disgyblion.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:

  • Athro cymwysedig gyda gradd berthnasol
  • Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes
  • Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol
  • Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion i gyflawni eu potensial
  • Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr

Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 3ydd o Fai

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans


Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad. 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA