Cynorthwyydd Addysgu lefel 2
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu ymroddedig a chymwys i ymuno â'n hysgol.
Swydd barhaol
Cychwyn Medi 2025
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu i weithio 32.5 awr yr wythnos ar draws 5 diwrnod gwaith rhwng 8.15yb - 3:15yp*. Mae'r rôl yn ystod y tymor ysgol yn unig (39 wythnos).
Mae’r cyflog ar gyfer rôl yn unol â Graddfa Gyflog 4 Torfaen £25,183 - £26,835 pro-rata.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes. Mae’r ysgol wedi agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i’n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys edrych ar ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a’n trefniadaeth gyffredinol.
Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgol eithriadol gydag angerdd am gynorthwyo ein dysgwyr i lwyddo. Chwiliwn am unigolyn deinamig, gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i wella cyrhaeddiad ein dysgwyr ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, cadarnhaol, gyda’r gallu i gydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.
Prif gyfrifoldebau:
• Gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweinyddiaeth Arweinydd Camau Cynnydd 1 & 2 neu aelodau o'r Uwch Dim Arwain yn ddyddiol yn y prosesau o sicrhau cefnogaeth Gofal Personal a chefnogaeth addysgiadol i ddisgyblion.
• Cefnogi disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion er mwyn sicrhau mynediad i ddysgu
• Cynorthwyo'r staff dysgu yn y prosesau o addasu gwaith lle bo angen er lles y disgybl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’r Athrawon Dosbarth yng Nghamau cynnydd 1 & 2– wrth cefnogi ein dysgwyr.
Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i’r ymgeisydd llwyddiannus:
Gweithio gyda dysgwyr gydag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu
Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar
Mynediad at ddysgu proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi
Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff
Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr cefnogol.
Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 23:59 dydd Gwener 30ain o Fai.
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Dirprwy Bennaeth, Gareth Jones.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.