Goruchwylydd Arholiadau
Rydym yn dymuno penodi Goruchwylwyr Arholiadau hynod drefnus a brwdfrydig sy'n llawn cymhelliant. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion yn ystod cyfnodau arholiadau a bydd gofyn i chi fod yn hyblyg i fod yn bresennol yn achlysurol o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am hyd 4pm.
Mae'r swydd yn amodol ar gwblhau hyfforddiant goruchwylydd (rheoliad JCQ) a gynhelir yn yr ysgol gan y Swyddog Arholiadau, yn llwyddiannus.
I gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Vicki Pothecary, Rheolwr Busnes.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Exam Invigilators
We are seeking to appoint highly organised, enthusiastic and motivated Exam Invigilators. You will be responsible for supervising pupils during examination periods and will need to flexible to attend on a casual basis Monday to Friday from 8am - 4pm.
The post is subject to the successful completion of invigilator training (JCQ regulation) conducted at the school by the Exams Officer.
For an informal discussion regarding this vacancy please contact Vicki Pothecary, Business Manager.
Welsh Language Skills are desirable for this post but not essential.
This post is exempt from the Rehabilitation of Offenders Act 1974. A comprehensive screening process will be undertaken on all successful applicants,which will include an Enhanced check with the Disclosure and Barring Service.
You are welcome to submit your application in English or in Welsh. Each application will be treated equally.
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.