Pennaeth

Cyflogwr
Pontnewydd Primary School
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
L18 - L24*
Dyddiad cychwyn
1st January 2026
Yn dod i ben
11th Mehefin 2025 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1488694
Cyfeirnod y swydd
REQ005497
Dyddiad cychwyn
1st January 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1488694

I ddechrau 1af Ionawr 2026 (neu'n gynt os yn bosibl)

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mae Ysgol Gynradd Pontnewydd yn ysgol gynradd boblogaidd yng nghanol Cwmbrân.

Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd dysgu ar gyfer hyd at 410 o ddisgyblion (4-11 oed) ac mae'n gartref i Ganolfan Adnoddau Dysgu'r Awdurdod Lleol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pontnewydd yn dymuno penodi Pennaeth rhagorol sydd â'r weledigaeth, y dalent a'r ymrwymiad i ddatblygu ysgol lwyddiannus ymhellach.

Rydym yn chwilio am Bennaeth sydd ag;

  • Ysfa i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial
  • Sgiliau arwain a rheoli rhagorol
  • Y gallu i hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol ar gyfer dyfodol Ysgol Gynradd Pontnewydd
  • Cred ym mhotensial pob plentyn i gyflawni
  • Ymrwymiad i weithio ar y cyd â'r holl randdeiliaid a'r gymuned leol

Yn gyfnewid, mae'r ysgol yn gallu cynnig croeso cynnes i ymuno â thîm cyfeillgar, gweithgar o weithwyr proffesiynol. Gall yr ysgol gynnig amgylchedd dysgu sy'n gyfoethog o ran technoleg ac ymrwymiad cryf i'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch ynglyn â'r swydd hon neu i drefnu ymweliad, cysylltwch ag Is-gadeirydd y Llywodraethwyr.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr (1974). Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed ac mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i fynd trwy broses sgrinio gynhwysfawr a fydd yn cynnwys Gwiriad Manylach trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd gwiriadau hefyd gyda chyflogwyr blaenorol a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Tynnu'r rhestr fer: 13eg Mehefin 2025

Cyfweliadau: 30ain Mehefin ac 1af Gorffennaf 2025

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Pontnewydd Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA