Pwrpas y Swydd:
Mae hon yn gyfle unigryw i berson profiadol a deinamig ymuno ag Uwch Dîm Arwain Ysgol Gymraeg Gwynllyw, yr unig ysgol bob oed yn Nhorfaen. Bydd y person llwyddiannus yn darparu arweiniad arbenigol a mewnbwn strategol i gryfhau dealltwriaeth yr arweinyddiaeth or cyfnod cynradd, codi safonau dysgu ac addysgu, a chyfrannu at ddatblygiad a gweledigaeth hir dymor yr ysgol.
Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer unigolyn sydd â hanes cryf o lwyddiant mewn addysg gynradd, efallai yn ystyried ymgeisio ar gyfer cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawieaeth ac sy'n barod i ddylanwadu ar arferion y tu hwnt i'w lleoliad presennol.
Prif Gyfrifoldebau:
- Gweithio'n agos gyda'r UDA i wella eu dealltwriaeth a'u goruchwyliaeth strategol o'r cyfnod cynradd.
- Cefnogi datblygu a gweithredu cynllun strategol ysgol gyfan gyda ffocws penodol ar ddarpariaeth gynradd.
- Darparu cyngor a hyfforddiant o safon uchel, wedi'i seilio ar dystiolaeth, i staff cynradd i wella safonau addysgu a dysgu.
- Helpu i ddatblygu a meithrin systemau cadarn ar gyfer cynllunio, asesu a chyflwyno'r cwricwlwm yn y cyfnod cynradd.
- Monitro ac arfarnu effeithiolrwydd strategaethau addysgu a chefnogi gweithredu cynllun gwella.
- Bod yn fodel arweinyddiaeth a chynnal safonau proffesiynol uchel bob amser.
- Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr a chynrychiolwyr yr awdurdod lleol, i yrru gwelliant.
- Cyfrannu at fentrau ysgol gyfan a sicrhau cydlyniad rhwng y cyfnodau cynradd ac uwchradd lle bo'n briodol.
'Cynigir' y rôl hon ar sail secondiad ac mae angen cefnogaeth pennaeth/cyflogwr presennol yr ymgeisydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ryddhau o'u rôl bresennol am y cyfnod y cytunir arno ar gyfer y secondiad.
Mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.