Gradd 4, SCP 7-10, £25,584-£26-835 (Pro Rata)
40 wythnos y flwyddyn.
35 awr yr wythnos.
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Swyddog Cymorth Ysgol Lefel 2 l. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r profiad a'r dealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol ardderchog i allu delio gyda amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a'r gymuned ehangach.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a'r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymleth gan gynnwys unigolion sy'n wynebu trafferthion neu anhawsterau. Mae'r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i'r rôl gan weithio'n agos gyda staff gweinyddol eraill, y tîm arwain a thîm cynnydd yr ysgol ynghyd â gwasanaethau cefnogi a chynnal allanol. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli amser effeithiol i sicrhau yr eir i'r afael â materion mewn modd amserol a bod blaenoriaethau'n cael sylw priodol o fewn terfyn amser penodol. Gan fod cyfathrebu a chyswllt gyda rhieni yn rhan allweddol o'r swydd, disgwylir i'r swyddog gymryd rôl flaenllaw wrth gyfathrebu yn glir ac yn gyson a bod yn wyneb personol i ateb ymholiadau ac i dawelu pryderon. Disgwylir i'r unigolyn gymryd cyfrifoldeb dros ddelwedd a diwyg y dderbynfa a mannau croeso'r ysgol gan sicrhau fod derbyniad cyfeillgar cynnes i ymwelwyr a bod y dderbynfa yn lân, broffesiynol a deniadol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr. Matthew Williamson-Dicken.
Bydd hysbyseb y swydd hon yn fyw tan 24/06/2025.
Bydd y rôl hon ar gyfer cychwyn cyn gynted ag sy'n bosib yn dilyn cyfweliad llwyddiannus a phrosesau recriwtio. Dewch o hyd i'r meini prawf a'r fanyleb person drosodd. Er mwyn gwneud cais, anogir i chi lenwi ffurflen gais er mwyn dangos eich priodoldeb ar gyfer y rôl. Fe allwch chi lenwi'r ffurflen gais yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
Cynhelir cyfweliadau yr wythnos sy'n dechrau 30/06/2025.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau 01/09/2025.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Ysgol Panteg yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.