Athro/Athrawes Hanes (Cyfnod Mamolaeth)
AR GYFER IONAWR 2026
Mae cyfle cyffrous ar gael yn Ysgol Gyfun Gŵyr i athro/athrawes flaengar sydd yn meddu ar sgiliau addysgu ardderchog i ymuno ag ysgol lwyddiannus.
Rydym yn chwilio am berson sydd
• Yn athro/athrawes ragorol
• Yn gosod y disgybl yn y canol
• Yn llwyr ymrwymedig i godi safonau cyflawniad
• Yn meddu ar rinweddau i ysgogi eraill ac i gydweithio mewn tîm.
Yn ddelfrydol, disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu hyd at Safon Uwch ond ystyrir ceisiadau eraill yn ogystal.
Ystyrir hefyd ceisiadau ar gyfer swydd rhan amser (0.8 FTE).
Ceisiadau trwy'r ffurflen gais atodol.
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gyfun Gwyr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.