Pennaeth Adran Gymraeg - Ysgol Gyfun Gŵyr - CAD 1B
Rydym yn chwilio am Bennaeth profiadol i Adran Gymraeg yr ysgol
Dyma gyfle cyffrous i athro blaengar arwain yr adran hynod lwyddiannus hon.
Rydym yn chwilio am berson sy'n :
- meddu ar sgiliau a rhinweddau arwain a rheoli ardderchog
- athro brwdfrydig a rhagorol a all arwain ac ysbrydoli eraill ym maes addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer dysgu
- gosod y disgybl yn y canol
- llwyr ymrwymedig i godi safonau a diogelu cynnydd parhaus ein dysgwyr
- ymwybodol o'r blaenoriaethau Cenedlaethol a'r datblygiadau diweddaraf ym maes y Gymraeg ar draws pob Cam Cynnydd a Chyfnod Allweddol
- medru ysgogi eraill wrth gydweithio ac arwain tîm mawr o staff yn effeithiol
- ymrwymedig i weithgareddau allgyrsiol helaeth yr ysgol a'r gwaith hanfodol o hybu Cymreictod
Ceisiadau trwy'r ffurflen gais atodol. E-bostiwch y ffurflen at sylw Ben Roberts, Rheolwr Busnes yr ysgol at gyfeiriad e-bost yr ysgol.
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gyfun Gwyr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.