YSGOL GYFUN GŴYR - SWYDD DIRPRWY BENNAETH
O FEDI 2026
Ysgol Grŵp 7
Gradd Cyflog: L22-L26 (£88,332-£97,410)
1,134 disgybl ar y gofrestr (Medi 2025). Yn ogystal, addysgir dros 70 o fyfyrwyr ychwanegol Bryn Tawe fel rhan o Bartneriaeth Chweched Dosbarth Gŵyr-Bryn Tawe ar y safle’n flynyddol.
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth parhaol fel aelod o Dîm Arweinyddiaeth yr ysgol o Fedi 2026. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi rheolwr ac arweinydd profiadol, sydd â’r weledigaeth, y gallu a’r ymroddiad i reoli o fewn yr ysgol a chefnogi'r Pennaeth, wrth ddirprwyo iddo yn ôl y gofyn. Disgwylir i ddeilydd y swydd gynnal y safonau eithriadol sydd eisoes wedi eu sefydlu, yn ogystal â’r ethos teuluol, parchus a chynhwysol sy’n bodoli yn yr ysgol.
Y mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol 11-18 sy’n cyflawni safonau a chanlyniadau eithriadol ym mhob un o’r meysydd allweddol yn flynyddol. Y mae gan Ysgol Gyfun Gŵyr enw da a record o gyflawniad rhagorol.
Am becyn gwybodaeth a ffurflen gais, nodwch yr amgaeedig. Ewch at wefan yr Ysgol i weld y ddogfennaeth berthnasol: Prosbectws yr Ysgol 2025-26, Prosbectws Partneriaeth y Chweched 2025-26 a'r Adroddiad Blynyddol 2025.
Ffurflenni Cais at Glerc y Corff Llywodraethol.
Dyddiad Cau: 1 Mai 2026
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Gyfun Gŵyr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhywedd, hunaniaeth drawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gwyr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment. We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.