YSGOL GYFUN GŴYR - SWYDD PENNAETH
O FEDI 2026
Ysgol Grŵp 7
Gradd Cyflog: L32-L38 (£112,832 - £130,696)
1134 disgybl ar y gofrestr (Medi 2025). Yn ogystal, addysgir 70 o fyfyrwyr ychwanegol Bryn Tawe fel rhan o Bartneriaeth Chweched Dosbarth Gŵyr-Bryn Tawe ar y safle’n flynyddol.
Yn dilyn cyfnod interim â phennaeth gweithredol wrth y llyw, mae’r Llywodraethwyr nawr yn awyddus i benodi pennaeth parhaol i arwain yr ysgol o Fedi 2026. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi arweinydd profiadol a deallus, sydd a’r weledigaeth, y gallu a’r ymroddiad i arwain Ysgol Gyfun Gŵyr yn feistrolgar am gyfnod pellach yn ei hanes. Disgwylir i ddeilydd y swydd gynnal y safonau eithriadol sydd eisoes wedi eu sefydlu yn ogystal a hyrwyddo'r ethos teuluol, parchus a chynhwysol sy’n nodweddu'r ysgol.
Y mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol 11-18 sy’n cyflawni safonau a chanlyniadau eithriadol ym mhob un o’r meysydd allweddol yn flynyddol. Y mae gan Ysgol Gyfun Gŵyr enw da a record o gyflawniad rhagorol.
Mae pecyn gwybodaeth a ffurflen gais, yn amgaeedig. Ewch at gwefan yr ysgol (penwad Dogfennau) am yr Adroddiad Blynyddol, Prospectws Ysgol, Prospectws y Chweched (Partneriaeth Gwyr-Bryntawe), Adroddiad Estyn 2023.
Dyddiad Cau: 26 Chwefror 2026 (12:00 amser cinio)
Safeguarding Statement:
Ysgol Gyfun Gwyr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.