2 X Swydd Cynorthwyydd Dysgu
I Ddechrau ar Fedi’r 1af, 2022
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gŵyr yn awyddus i benodi dau Gynorthwyydd Dysgu brwdfrydig, cydwybodol, gofalgar ac egnïol sydd â chymwysterau, sgiliau neu brofiad perthnasol i gefnogi disgyblion ar draws yr ysgol.
Fel cynorthwyydd dysgu byddwch yn cefnogi plant gyda'u datblygiad addysgol a chymdeithasol, y tu fewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Bydd rolau'r swydd yn cynnwys:
• Gweithio gyda phobl ifanc 11 i 18 oed, yn llawn amser fel Cynorthwyydd Dysgu.
• Cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
• Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh.
• Cefnogi athrawon mewn rolau amrywiol o fewn y dosbarth.
• Addasu a pharatoi adnoddau a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw.
• Helpu plant sydd angen cymorth ychwanegol i gynllunio a chwblhau tasgau.
• Dangos empathi at anghenion eich disgyblion tra'n cael yr awydd i'w hannog i gyflawni eu potensial.
• Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn
• Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol.
• Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm.
• Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Danfonwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV at sylw Rosemarie Brown Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD.
Dyddiad cau 15/6/2022
Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer.
O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol.
Mae Ysgol Gyfun Gwyr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.