Ysgol Gyfun Gwyr - Cynorthwy-ydd Dysgu
Rydyn ni’n awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Dysgu i ymuno a’r Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gŵyr i ddechrau mor gynted a phosib. Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6)
• Gweithio gyda phobl ifanc 11 i 18 oed.
• Cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
• Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh.
• Cefnogi athrawon mewn rolau amrywiol o fewn y dosbarth.
• Addasu a pharatoi adnoddau a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw.
• Helpu plant sydd angen cymorth ychwanegol i gynllunio a chwblhau tasgau.
• Dangos empathi at anghenion eich disgyblion tra'n cael yr awydd i'w hannog i gyflawni eu potensial.
• Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn
• Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol.
• Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm.
• Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch.
Oes gennych chi ddiddordeb i ddatblygu’n broffesiynol? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol?
Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV at sylw y CADY Emma Morris drwy law Rhiannon Cummins.
Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer.
Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn gopi caled hefyd - i’w ddanfon at sylw Rhiannon Cummins, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD.
Dyddiad cau 13/09/2024.
O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol.
Gofynion Angenrheidiol y swydd:
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Mae Ysgol Gyfun Gwyr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.