Teitl y Swydd: Cynorthwywyr Addysgu
Lleoliad: Ysgol Gyfun Gwyr
Oriau: Swydd ran-amser, tri diwrnod yr wythnos.
Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6)
Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosib
Dyddiad Cau: 18/05/2026
Am y Rôl:
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm yn yr Adran ADY. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r athrawon i gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion, gan sicrhau amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol i bawb.
Cyfrifoldebau:
• Cynorthwyo pobl ifanc 11 i 18 oed i gynllunio a chwblhau tasgau.
• Cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
• Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh
• Cefnogi athrawon gyda rolau amrywiol o fewn y dosbarth.
• Addasu a pharatoi adnoddau yn ôl yr angen a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw.
• Dangos empathi at anghenion y disgyblion tra'n eu hannog i gyflawni eu potensial.
• Cyflwyno sylwadau am gynnydd y disgyblion rydych chi’n gweithio gyda fel rhan o brosesau adolygu cynlluniau datblygu unigol yr ysgol.
• Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn.
• Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol.
• Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm.
• Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch.
• Helpu i gynnal amgylchedd dosbarth diogel
Gofynion Angenrheidiol y swydd:
• Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Sut i Ymgeisio:
Oes gennych chi ddiddordeb i ddatblygu’n broffesiynol? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol?
Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd a’ch CV at sylw y CADY, Mrs Emma Morris, drwy law Rhiannon Cummins, rheolwr gweinyddol yr adran ADY.
Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn unrhyw gopiau caled hefyd - i’w danfon at sylw Mrs Emma Morris, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD. Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer.
O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol.
Mae Ysgol Gyfun Gŵyr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhywedd, hunaniaeth drawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gwyr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment. We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.