Fast Apply

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 (Gradd 5, SCP 7-9)

School
Ysgol Gyfun Gwyr
Location
Tregwyr, Swansea
Contract Type
Temporary
Hours
Full Time
Salary
TBC
Start Date
2nd September 2024
Expires
4th June 2024 04:00 PM
Contract Type
Temporary
Job ID
1421993
Start Date
2nd September 2024
  • Contract Type :Temporary
  • Job ID: 1421993

Ysgol Gyfun Gwyr

Rydyn ni’n awyddus i benodi Anogwr Dysgu (Cynorthwydd Dysgu Lefel 3) i ymuno a’r Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gŵyr i gychwyn Medi 2024.

Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6)

Dyma gyfle arbennig i unigolyn i ddatblgyu’n broffesiynol drwy gynnig darpariaeth i grwpiau bach o ddisgyblion ym meysydd llythrennedd ac iaith.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

• y weledigaeth a’r creadigrwydd i gynllunio a chreu adnoddau priodol a phwrpasol i gyflwyno ymyrraeth i grŵp bach o ddisgyblion

• ymwybyddiaeth o’r anawsterau y byddai gan ddisgyblion sydd ag anghenion iaith neu lythrennedd e.e. ymwybyddiaeth ffonolegol gwan, er mwyn eu cynorthwyo i ddatrys, diwallu a lleddu’r anawsterau

• Y sgiliau trefnu angenrheidiol i greu amserlen ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-9

• amrywiaeth o syniadau a strategaethau ar sut i gyflwyno darpariaeth amrywiol i ddiwallu anghenion y disgyblion

• strategaethau i annog a chodi hunan-hyder disgyblion ym meysydd llythrennedd ac iaith

• ymwybyddiaeth ar gynnig darpariaeth drwy raglen Language Link (dewisol ond nid yn ofynnol - HMS ar gael yn ôl yr angen)

• sgiliau cyfathrebu arbennig er mwyn diogelu cydweithio rhagorol o fewn yr adran a gydag asiantaethau allanol

• ymwybyddiaeth o ystyr sgorau safonedig ac yn gallu defnyddio’r sgorau i greu grwpiau ymyrraeth yn dilyn y profion Cenedlaethol


Oes gennych chi ddiddordeb? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol?

Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV at sylw y CADY Emma Morris drwy law Rhiannon Cummins.

Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer.

Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn gopi caled hefyd - i’w ddanfon at sylw Rhiannon Cummins, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD.

Dyddiad cau 04/06/2024.

O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol.

Gofynion Angenrheidiol y swydd:

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gwyr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gwyr

Ysgol Gyfun Gwyr