NEW

Pennaeth yr Adran Gymraeg

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gwyr
Lleoliad
Tregwyr, Swansea
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
23rd Chwefror 2026 09:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1532016
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Hyd y contract: Cytundeb Parhaol
  • ID swydd: 1532016

Pennaeth Adran Gymraeg - Ysgol Gyfun Gŵyr - CAD 1B

Rydym yn chwilio am Bennaeth profiadol i Adran Gymraeg yr ysgol

Dyma gyfle cyffrous i athro blaengar arwain yr adran hynod lwyddiannus hon.

Rydym yn chwilio am berson sy'n :

  • meddu ar sgiliau a rhinweddau arwain a rheoli ardderchog
  • athro brwdfrydig a rhagorol a all arwain ac ysbrydoli eraill ym maes addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer dysgu
  • gosod y disgybl yn y canol
  • llwyr ymrwymedig i godi safonau a diogelu cynnydd parhaus ein dysgwyr
  • ymwybodol o'r blaenoriaethau Cenedlaethol a'r datblygiadau diweddaraf ym maes y Gymraeg ar draws pob Cam Cynnydd a Chyfnod Allweddol
  • medru ysgogi eraill wrth gydweithio ac arwain tîm mawr o staff yn effeithiol
  • ymrwymedig i weithgareddau allgyrsiol helaeth yr ysgol a'r gwaith hanfodol o hybu Cymreictod


Ceisiadau trwy'r ffurflen gais atodol. E-bostiwch y ffurflen at sylw Ben Roberts, Rheolwr Busnes yr ysgol at gyfeiriad e-bost yr ysgol.

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gwyr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.