Pennaeth Adran Ieithoedd Rhyngwladol i arwain yr Adran ac i addysgu cyrsiau TGAU a Safon Uwch Ffrangeg. Addysgir Sbaeneg fel yr ail iaith fodern. CAD 2b
Dyma gyfle cyffrous i athro/athrawes blaengar sydd yn meddu ar sgiliau addysgu ardderchog i ymgymryd ag awenau adran sydd yn meddu ar safonau uchel ac yn sicrhau bod disgyblion yn llwyddo i'r safon uchaf.
Rydym yn chwilio am berson sydd:
- Yn arweinydd ysbrydoledig sy'n meddu ar rinweddau i ysgogi eraill ac i gydweithio mewn tîm.
- Yn athro/athrawes ragorol.
- Yn gosod y disgybl yn y canol.
- Yn llwyr ymrwymedig i godi safonau cyflawniad pob disgybl.
- Yn ymroddedig i ddatblygiadau Cwricwlwm i Gymru ac i sicrhau lle teilwng i Ieithoedd Rhyngwladol ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd.
Ceisiadau trwy'r ffurflen gais atodol. Croeso i chi ebostio/ffonio'r Pennaeth os am drafodaeth bellach.
Attachments
Safeguarding Statement:
Mae Ysgol Gyfun Gwyr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.