Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasanaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2024 bydd tua 1000 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Yn adroddiad arolwg Estyn o’r ysgol fe’i disgrifiwyd fel ‘cymuned glòs iawn gydag ethos hynod ofalgar a chefnogol.’ Nodwyd hefyd fod ‘disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal’ a bod yr ysgol yn creu ‘diwylliant ac ethos o’r ‘ysgol sy’n dysgu’ sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel.’ Dyfarnwyd fod lles ac agweddau at ddysgu, ynghyd ag addysgu a phrofiadau dysgu yn rhagorol yn yr ysgol.
Yn dilyn ad-drefnu mewnol o fewn yr adran Saesneg, chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i arwain yr adran allweddol hon yn yr ysgol. Mae’n gyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus adeiladu ar lwyddiannau presennol yr adran a pharhau i ddatblygu cwricwlwm cyffrous a pherthnasol er mwyn diwallu anghenion disgyblion yr ysgol.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
▪ feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
▪ meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
▪ meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
▪ bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
▪ dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
▪ bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
▪ meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.