Athro / Athrawes - Celf a Dylunio / Dylunio a Technoleg a Pwnc Ychwanegol

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
18th Mawrth 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1537948
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1537948

Trosolwg o’r Swydd

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am athro/athrawes angerddol, creadigol ac amlddiwylliannol i addysgu:

- Celf a Dylunio

- Dylunio a Thechnoleg

- Pwnc Ychwanegol (yn unol â sgiliau ac arbenigedd yr ymgeisydd)

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu:

- Ddarparu gwersi sy’n datblygu cariad at gelf, dylunio a meddwl creadigol yn ein disgyblion.

- Addysgu amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau — boed yn y stiwdio, yn y gweithdy neu gyda chyfarpar digidol.

- Codi safonau addysg a sicrhau amgylchedd dysgu sy’n galluogi disgyblion o bob gallu i ffynnu.

- Bydd cyfle i ymgeiswyr addas addysgu Cyfnod Allweddol 4 a 5 mewn Celf neu D&T. Mae’r ddwy adran yn gryf iawn, gyda gwaith disgyblion o safon uchel a phrosiectau cyffrous sydd yn meithrin creadigrwydd ac ymarfer proffesiynol.

Gofynion y Swydd:

- Statws Athro Cymwysedig (SAC) neu gymhwyster cyfatebol.

- Cymwysterau arbenigol mewn Celf, Dylunio a Thechnoleg neu ddisgyblaeth greadigol berthnasol.

- Y gallu i addysgu ystod o dechnegau, prosesau a chyfryngau creadigol.

- Dealltwriaeth gadarn o ofynion y cwricwlwm, gan gynnwys dulliau asesu perthnasol.

- Y gallu i feithrin sgiliau artistig, dylunio a datrys problemau drwy feithrin creadigrwydd a meddwl beirniadol.

Pam Ymuno â Ni?

Rydym yn ysgol sy’n gwerthfawrogi datblygiad proffesiynol ac yn sicrhau cyfleoedd hyfforddi rheolaidd i’r holl staff. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon ymroddedig, mewn timau creadigol cryf gyda chyfleoedd i rannu arfer a datblygu eich arbenigedd ymhellach.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA