Athro / Athrawes Addysg Gorfforol a Chymraeg

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
Dyddiad cychwyn
4th January 2027
Yn dod i ben
18th Tachwedd 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1582928
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates; Other Graduates; Apprentices
Cyfeirnod y swydd
Addysg Gorfforol a Cymraeg
Dyddiad cychwyn
4th January 2027
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: 2 Tymor (4/1/27 - 31/8/27)
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates; Other Graduates; Apprentices
  • ID swydd: 1582928

Athro / Athrawes Addysg Gorfforol a Chymraeg

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd

Cyfnod Penodol: 4 Ionawr 2027 - 31 Awst 2027

 Cyflog: MPS/UPS

 Oriau: Llawn Amser

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn dymuno penodi Athro neu Athrawes Addysg Gorfforol a Chymraeg brwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydoledig i ymuno â'n cymuned ysgol lwyddiannus am gyfnod penodol o ddau dymor. Bydd y swydd yn dechrau ar 4 Ionawr 2027 ac yn rhedeg tan 31 Awst 2027.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag ysgol Gymraeg flaengar sy'n ymfalchïo mewn darparu addysg o'r safon uchaf i'w dysgwyr. Rydym yn chwilio am athro rhagorol sy'n angerddol am Addysg Gorfforol a'r Gymraeg, ac sydd yn gallu ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn yn y dosbarth, ar y maes chwarae ac yn ehangach ym mywyd yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Addysg Gorfforol a Chymraeg ar draws ystod oedran a gallu eang, gan chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cyflawniad, datblygiad personol a lles ein dysgwyr. Disgwylir iddo/iddi gyfrannu'n weithredol at ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion, ynghyd â chefnogi gweithgareddau allgyrsiol a bywyd ehangach yr ysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â:

Statws Athro Cymwysedig (QTS).

Gradd berthnasol mewn Addysg Gorfforol a/neu Gymraeg.

Y gallu i addysgu'r pynciau hyn i safon uchel.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm.

Disgwyliadau uchel o'u hunain ac o'u dysgwyr.

Ymrwymiad i hyrwyddo'r Gymraeg ac i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig y cyfle i weithio mewn ysgol Gymraeg fywiog a llwyddiannus gyda staff cefnogol, dysgwyr uchelgeisiol a diwylliant cryf o gydweithio a datblygiad proffesiynol.

Croesewir ceisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon sydd newydd gymhwyso.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA