Rydym yn chwilio am athro/athrawes Gwyddoniaeth brwd, ymrwymedig a chreadigol i ymuno ag adran flaengar a llwyddiannus yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu’n ganolog at lwyddiant academaidd disgyblion drwy ddarparu gwersi Gwyddoniaeth o ansawdd uchel ar draws Cyfnod Allweddol 3, ac i addysgu Cemeg hyd at Gyfnod Allweddol 4 a 5, os yn addas.
Am y rôl
Byddwch yn:
- ddarparu elfennau craidd y cwricwlwm Gwyddoniaeth, gan fod yn wybodus ym mhob un o’r tri disgyblaeth: Bioleg, Cemeg a Ffiseg;
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu ac adborth effeithiol i gynnal a chodi safonau;
- cefnogi datblygiad academaidd, ieithyddol a diwylliannol disgyblion gan gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol a’r ethos Cymraeg cryf sydd wrth galon yr ysgol;
- cydweithio’n adeiladol gydag aelodau’r adran mewn ysgol sy’n parhau i dyfu ac esblygu.
Gofynion y swydd
Rhaid i’r ymgeiswyr:
- feddu ar Statws Athro Cymwysedig (SAC) neu gymhwyster cyfatebol;
- feddu ar gymwysterau perthnasol mewn pwnc gwyddonol (e.e. gradd BSc);
- feddu ar sgiliau addysgu ac ysbrydoli rhagorol, gyda gallu i gyflwyno cynnwys damcaniaethol ac ymarferol o fewn ystod eang o fodiwlau gwyddonol;
- meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn Gymraeg ac yn Saesneg;
- bod yn hyderus gyda TGCh ac yn barod i ddefnyddio technoleg yn effeithiol yn y dosbarth;
- ymrwymo i gynnal ethos cadarnhaol, cynhwysol ac uchelgeisiol, wedi’i wreiddio yn y Gymraeg a diwylliant Cymru.
Pam ymuno â ni?
Byddwch yn rhan o dîm ymroddgar sy’n gweithio mewn ysgol gymunedol Gymraeg fywiog sy’n parhau i dyfu ac i lwyddo. Rydym yn cynnig:
- cyfleoedd helaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol;
- cefnogaeth cryf gan adran brofiadol a chydweithredol;
- y cyfle i gael effaith sylweddol ar ganlyniadau a datblygiad disgyblion mewn pwnc allweddol.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.