Mae cyfle cyffrous ar gael i athro / athrawes ymrwymedig ymuno â'n tîm, gan ddarparu gwersi Cerddoriaeth o ansawdd uchel mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac uchelgeisiol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am athro / athrawes frwdfrydig, brofiadol a chreadigol i ymuno â thîm cymwys iawn ac effeithiol. Byddwch yn ymarferydd Cerddoriaeth cyfannol sy'n meddu ar y gallu i ddarparu agweddau theori a pherfformio ar y pwnc, yn unol â gofynion ehangach y cwricwlwm, gan sicrhau bod cyflawniad dosbarthiadau’n cael ei godi a’i gynnal.
Gofynion y swydd:
- Statws Athro Cymwysedig neu gymhwyster cyfatebol
Cymwysterau arbenigol perthnasol a phrofiad yn y pwnc (e.e. Gradd BA Anrhydedd mewn Cerddoriaeth neu faes yn gysylltiedig â Theori Cerddoriaeth)
Y gallu i ddarparu gwersi Cerddoriaeth i safon uchel
Dealltwriaeth o ofynion y cwricwlwm ar gyfer Cerddoriaeth
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar gyfer ystod o alluoedd
Pam ymuno â ni?
Cewch gefnogaeth yn eich datblygiad proffesiynol ochr yn ochr â chyfadran ymrwymedig a thîm ehangach i ddarparu addysgu a dysgu neilltuol. Ein prif gryfder yw profiad a thalentau ein staff, y maent oll yn ymrwymedig i ddarparu cwricwlwm cyffrous a thrylwyr i'n myfyrwyr.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.