ENDING SOON

Athro/Athrawes Cymraeg

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Prif/Uwch Raddfa
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
19th Ionawr 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1528328
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf
  • ID swydd: 1528328

ATHRO/ATHRAWES CYMRAEG

GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa

DYDDIAD DECHRAU: MEDI 2026

CYTUNDEB BLWYDDYN YN Y LLE CYNTAF


Trosolwg o’r rôl / yr ysgol

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 mae dros 965 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ymuno ag adran hynod o flaengar a llwyddiannus. Addysgir y Gymraeg ar draws yr ystod oedran a gallu. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu hyd at gytfnod allweddol 4 yn y lle cyntaf, ond bydd cyfle i ymgeisydd profiadol addysgu yng nghyfnod allweddol 5.


Rhaid i’r ymgeiswyr:

▪ Feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol

▪ Meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg

▪ Meddu ar sgiliau TGCh rhagorol

▪ Bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant

▪ Dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol

▪ Bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg

▪ Meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.


Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.


Dechrau Medi 2026

Dyddiad cau Canol Dydd 19/1/26


Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA