YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO EDERN
HEOL LLANEDEYRN
PENYLAN
CAERDYDD
CF23 9DT
ATHRO/ATHRAWES: DRAMA A CHYFRYNGAU
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
DYDDIAD DECHRAU: 13 EBRILL 2026
CYTUNDEB PENODEDIG (EBRILL-AWST 2026)
Cyf : ED50240546
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasanaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Erbyn hyn, mae dros 965 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal a bod yr ysgol yn creu diwylliant ac ethos o’r ysgol sy’n dysgu sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel. Dyfarnwyd fod lles ac agweddau at ddysgu, ynghyd ag addysgu a phrofiadau dysgu yn gryfderau penodol yn yr ysgol.
Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ymuno ag adran flaengar a llwyddiannus. Addysgir drama ar draws y tri chyfnod allweddol a chynnigir Cyfryngau fel opsiynau TGAU a UG/Safon Uwch.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
● feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
● meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
● meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
● bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
● dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
● bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
● meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut bydd darpariaeth arloesol a chyffrous yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae sgiliau newydd yn gallu hyrwyddo a datblygu galluoedd ieithyddol ein disgyblion yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais i’r hysbyseb drwy ddewis y botwm “Gwneud Cais Nawr”. Ni fyddwn ond yn derbyn swyddi i’r swydd hon drwy’r cais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon.
Oherwydd ein trefniadau gweithio interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r swydd.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi yn uniongyrchol i'r ysgol defynddio cyfeiriad e-bost
erbyn y dyddiad cau 5 Rhagfyr 2025 (erbyn 12:00 Hanner Dydd).
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa heb fod yn is nag OM2, neu gan y Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
• y rhai sy’n 25 oed ac iau;
• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.