YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO EDERN
HEOL LLANEDEYRN
PENYLAN
CAERDYDD
CF23 9DT
Cyf: ED50231862
ATHRO/ATHRAWES IEITHOEDD RHYNGWLADOL (FFRANGEG NEU ALMAENEG)
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
DYDDIAD DECHRAU: MEDI 2025
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2024 mae dros 975 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal’ a bod yr ysgol yn creu ‘diwylliant ac ethos o’r ‘ysgol sy’n dysgu’ sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel.’ Dyfarnwyd fod lles a diwallu anghenion disgyblion, ynghyd â phrofiadau dysgu yn gryfderau penodol yn yr ysgol.
Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ymuno ag adran flaengar a llwyddiannus. Addysgir Ffrangeg ac Almaeneg ar draws y tri chyfnod allweddol a bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus addas addysgu un o’r ieithoedd hyd at gyfnod allweddol 5. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gyda phennaeth yr adran Ieithoedd Rhyngwladol sydd â gweledigaeth gadarn i ddatblygu Ffrangeg ac Almaeng ymhellach ar draws yr ysgol.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
● feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
● meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
● meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
● bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant ▪ dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
● bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
● meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu. Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.