ATHRO/ATHRAWES MATHEMATEG A RHIFEDD
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
DYDDIAD DECHRAU: Tymor Haf (13/4/26) neu Medi 2026
CYTUNDEB: BLWYDDYN YN Y LLE CYNTAF
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 mae dros 965 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ymuno ag adran flaengar a llwyddiannus. Addysgir mathemateg ar draws y tri chyfnod allweddol a bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu mathemateg a rhifedd hyd at gyfnod allweddol 4 a mathemateg hyd at gyfnod allweddol 5.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
▪ Feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
▪ Meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
▪ Meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
▪ Bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
▪ Dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
▪ Bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
▪ Meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.
Dyddiad cau – Canol Dydd 19.1.26
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.