Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.
Wrth weithio ym Mro Edern, byddwch yn ymuno â thîm profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn ein cymuned.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod gydag awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Byddwn yn darparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.