Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 mae dros 965 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Yn sgil ad-drefnu yn yr adran weinyddol, chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ddarparu cymorth gweinyddol - Derbynnydd o fewn yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda sgiliau digidol ardderchog ac yn gallu defnyddio amryw o raglenni gweinyddol (e.e. Word, Excel) ac â’r gallu i ddysgu sut i ddefnyddio rhaglenni addysgiadol (e.e. ARBOR, Parentpay) er budd yr ysgol.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
• feddu ar sgiliau trefnu a rheoli ardderchog
• meddu ar ymwybyddiaeth o faterion addysgol
• meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
• meddu ar sgiliau TGCh ardderchog
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog
• bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau pwysig i’r Cyngor. Ein nod yw helpu plant ac oedolion sy’n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch plant ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles, gan gydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar-lein neu drwy’r post at sylw: Miss Lindsay Lewis, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Heol Llanedeyrn, Penylan, Caerdydd, CF23 9DT
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.