Uwch Gynorthwy-ydd ADY

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
£27,921 - £30,735
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
Yn dod i ben
20th Awst 2025 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1502048
Cyfeirnod y swydd
UG25
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Blwyddyn yn y lle cyntaf
  • ID swydd: 1502048

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 bydd tua 975 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal a bod yr ysgol yn creu diwylliant ac ethos o’r ysgol sy’n dysgu sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel. Dyfarnwyd fod lles a diwallu anghenion disgyblion, ynghyd â yn gryfderau penodol yn yr ysgol.

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig llawn amser yn yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dyma gyfle arbennig i arwain a gwella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth. Rhan greiddiol o’r swydd fydd casglu a dadansoddi amrywiaeth o ddata am ddisgyblion er mwyn adnabod anghenion a chynllunio ymyraethau’n bwrpasol, yn cynnwys gwneud ceisiadau at asiantaethau perthnasol a’r GIG, gan adrodd yn ôl at y Llywodraethwyr yn dymhorol.

Wrth weithio ym Mro Edern, byddwch yn ymuno a thîm profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn ein cymuned.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod gydag awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad emosiynol o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Golyga hyn y gallu i gynnal cyfarfodydd gyda rhieni ac asiantaethau allanol pan yn briodol. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.

Byddwn yn darparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.

Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.

Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Cydlynydd Angenion Dysgu Ychwanegol, Mrs Meriel Powell.

Proses Ymgeisio

Gallwch ymgeisio am y swyddi yma drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gallwch sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol. Mae’r swyddi gwag hyn yn addas i’w rhannu.

Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA