Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig i ymuno â'n tîm fel Uwch Gynorthwyydd Addysgu a Dirprwy Arweinydd Bugeiliol (CALU CA3). Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi lles, ymddygiad a chynnydd academaidd dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 mewn amgylchedd Cymraeg, cynhwysol a chefnogol.
Bydd y deiliad yn gweithio'n agos gyda staff addysgu, arweinwyr bugeiliol, rhieni ac asiantaethau allanol i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cymorth angenrheidiol i oresgyn rhwystrau i ddysgu a llwyddo yn yr ysgol. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi dysgwyr unigol a grwpiau bach, cydlynu gwybodaeth bontio, meithrin perthnasoedd cadarnhaol â theuluoedd, a chyfrannu at gynllunio a gweithredu ymyriadau bugeiliol ac addysgol effeithiol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, sydd yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac sy'n meddu ar safonau uchel o ddisgwyliad ar gyfer pob dysgwr. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda phlant neu bobl ifanc ac ymrwymiad cryf i hyrwyddo cynhwysiant, lles ac addysg o'r safon uchaf.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyfrannu at ddatblygiad staff, cefnogi gweithgareddau ysgol ehangach, cynnal cofnodion a systemau perthnasol, a helpu i sicrhau pontio llwyddiannus rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc a gweithio mewn ysgol sy'n rhoi lles, perthnasoedd cadarnhaol a llwyddiant pob dysgwr wrth galon ei gwaith.
Mae'r swydd yn amodol ar wiriad DBS manwl boddhaol a bydd disgwyl i'r deiliad fynychu diwrnodau HMS a hyfforddiant perthnasol.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.