Swydd TAR Uwchradd Mathemateg neu Dylunio Technoleg

Employer
Ysgol Brynhyfryd
Location
Ruthin, Denbighshire
Contract Type
Fixed term contract
Hours
Full Time
Salary
£21,812
Start Date
1st September 2025
Expires
23rd May 2025 11:59 PM
Contract Type
Fixed term contract
Job ID
1478189
Suitable for
Other Graduates
Job Reference
YBHMDT1
Start Date
1st September 2025
  • Contract Type :Fixed term contract
  • Contract Length: 2 Mlynedd
  • Suitable for: Other Graduates
  • Job ID: 1478189

This is an advertisement for an opportunity to train as a secondary SUBJECT teacher through the Open University at Ysgol Brynhyfryd. All candidates are required to be fluent in both Welsh and English.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn hyfforddi yn unai Mathemateg neu Dylunio Technoleg

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy’r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU’N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)

Graddfa Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1(£21,812)

Yn eisiau erbyn: Medi 2025

Mae Ysgol Brynhyfryd yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli yn Rhuthun, yng nghalon Dyffryn Clwyd. Ar hyn o bryd, mae 1100 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys 180 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i’r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y ddarpariaeth, y gefnogaeth a’r profiadau gorau i’n dysgwyr o ran eu dawn, eu dysg a’i daioni.

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy darpariaeth y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu unai Mathemateg neu Dylunio Technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ysgol wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai’n gweithio ar hyn o bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno ag unai’r Adran Mathemateg neu Technoleg, gan y byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol mewn maes dysgu sydd ar flaen y gad mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru ac wrth greu adnoddau ysbrydoledig. Y mae i’r adrannau Technoleg a Mathemateg enwau da ac maent yn adrannau sydd yn ymroddedig i ddarparu’r safonau uchaf o addysgu a dysgu. Wrth ddod yn aelod o staff yn Ysgol Brynhyfryd, rydych yn ymuno gyda thîm ac yn wir, teulu o bobl arbennig iawn. Y mae i’r ysgol gymuned a naws deuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a’r staff. Mae yma elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymysg y tîm o staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl hwy yn llwyddiant ac yn lles ein plant, ein pobl ifanc, a’n gilydd fel oedolion proffesiynol.

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deilydd y swydd hon yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a’i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN

Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:

• Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd

• Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf

• Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.

• Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2027 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 Mae’r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd.

• Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach.

Nodweddion personol:

• Argyhoeddiad y gall pob person ifanc fod yn ddysgwyr llwyddiannus ac effeithiol, yn enwedig pan fyddant yn ffurfio perthynas gadarnhaol ag oedolion

• Gallu ar gyfer gwaith caled a gwydnwch

• Sgiliau trefnu rhagorol, gan gynnwys sgiliau rheoli amser a chwrdd â therfynau amser

• Awydd gwirioneddol i fod bob amser yn well fel ymarferwr, gan gynnwys ymateb yn gadarnhaol i adborth a chymryd rhan lawn mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol

• Lefel uchel o broffesiynoldeb fel rhan o fod yn fodel rôl cadarnhaol i bobl ifanc

• Mwynhad o fod yn rhan o ethos tîm a dysgu ohono

Am fwy o wybodaeth a/neu am ffurflen gais, cysylltwch â

Mrs Alys Crompton, Ysgol Brynhyfryd yn defnyddio'r manylion o fewn y ddogfen atodol.

Croesawir ceisiadau am sgyrsiau anffurfiol gyda’r Pennaeth yn ogystal â’r Pennaeth Adran.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, 09/05/2025

(Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 12/05/2025)

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Brynhyfryd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment. We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.