Athro/Athrawes Cerdd a’r Celfyddydau Mynegiannol (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am athro/athrawes Cerdd a’r Celfyddydau Mynegiannol talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am ddysgu Cerddoriaeth TGAU ynghyd â’r Celfyddydau Mynegiannol yng Nghamau Cynnydd 4 (Bl 7, 8 a 9).
Edrychwn am unigolyn egnïol a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Cytundeb cyfnod mamolaeth yw’r swydd a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 2il o Dachwedd 2026.
Ysgol pob oed cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.
Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes, trwy e-bost neu trwy ffonio.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Iau, Mehefin 4ydd.
Mae Ysgol Caer Elen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.