Athro/Athrawes Cynradd (Cam Cynnydd 1 / 2) - Cyfnod Pendol tan 31.08.2027
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am 2 athro/athrawes Cynradd talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swyddi yma. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus addysgu yng Nghamau Cynnydd 1 neu 2. Edrychwn am unigolion egnïol a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Cytundebau dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf yw’r rhain a disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau o’r 1af o Fedi 2026.
Ysgol pob oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.
Os hoffech drafod cynnwys y swyddi hon ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes, trwy e-bost ar neu trwy ffonio
Y dyddiad cau ar gyfer y swyddi yw dydd Llun, Chwefror 23ain 2026.
Mae Ysgol Caer Elen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.