Athro/Athrawes Cynradd x2 – (Cyfnodau Mamolaeth)
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am ddau athro/athrawes Cynradd talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swyddi yma. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus addysgu yng Ngham Cynnydd 2 (Blwyddyn 3). Edrychwn am unigolion egnïol a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Cytundebau cyfnod mamolaeth yw’r swyddi a disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau o’r 2il o Dachwedd 2026.
Ysgol pob oed 3-16 cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Iau, Mehefin 11eg 2026.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Caer Elen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.