Athro/Athrawes Cymraeg

Cyflogwr
Ysgol Caer Elen
Lleoliad
Haverfordwest, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
29th Ionawr 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1530292
Cyfeirnod y swydd
REQAA6952
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1530292

Athro/Athrawes Cymraeg

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am athro/athrawes Cymraeg talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am gyflwyno’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yng Nghamau Cynnydd 4 a 5. Edrychwn am unigolyn egnïol a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Cytundeb parhaol yw hon a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 1af o Fedi 2026.

Ysgol pob oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.

Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes, trwy e-bost neu trwy ffonio.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Iau, 29ain o Ionawr 2026.   

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Caer Elen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Caer Elen

Ysgol Caer Elen

Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority