Gradd 3 - £20,812 am 30 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £14,822.72 pro rata.
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am 2 gynorthwyydd brwdfrydig ac egnïol. Byddwn yn cynnig cytundeb dros dro am flwyddyn, llawn amser (30 awr yr wythnos) yn ystod y tymor yn y lle cyntaf.
Ysgol Pob Oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen. Mae’r nifer o ddisgyblion wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r ysgol yn hollol ymrwymedig i gwrdd â’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Ne a Gorllewin y sir. Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn ystod Chwefror 2023.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Disgwylir ymrwymiad llawn at gefnogi a hyrwyddo addysg Gymraeg yn holl fywyd yr ysgol.
Dyddiad cau'r swydd yw dydd Llun Tachwedd 6ed.
Os hoffech drafod cynnwys y swydd hyn ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes drwy ffonio neu e-bostio.
Mae Ysgol Caer Elen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.