Athro/ Athrawes Gymraeg
Ysgol Calon Cymru – Campws Llanfair-ym-Muallt
32.5awr/ Parhaol
Rydym yn chwilio am Athro/ Athrawes Mamiaith hynod o gymhellgar sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i addysg a phrofiadau dysgu ein holl fyfyrwyr.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i athro / athrawes ysbrydoledig weithio mewn tîm cefnogol ac egniol a byddem yn croesawu ceisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon sydd newydd gymhwyso. Os oes gennych sgiliau trefniadol gwych a’r gallu i weithio ag eraill i godi cyrhaeddiad trwy gymell ac ysbrydoli myfyrwyr, yna hoffem glywed oddi wrthych.
Rydym yn chwilio am arbenigwr medrus a brwdfrydig sy’n angerddol am alluogi’r holl fyfyrwyr i wneud cynnydd arwyddocaol yn y Gymraeg. Rhaid i chi allu cynllunio gwersi sy’n ymgysylltu a gweithio’n gydweithredol ochr yn ochr â staff dawnus a diwyd sy’n ymroddedig tuag at ddarparu cyfleoedd neilltuol i’n myfyrwyr.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol sydd â dealltwriaeth dda o egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a’n strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gymraeg sef Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Bydd gweledigaeth glir gan yr unigolyn cywir o ran dysgu ac addysgu’r Gymraeg, ar y cyd â’r gallu i weithio gydag eraill i arloesi a chodi cyrhaeddiad trwy gymell ac ysbrydoli myfyrwyr.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 sy'n gwasanaethu ardal wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth gweithgar. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm o athrawon a staff cymorth gweithgar, cymwys a phenderfynol. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch at ei gilydd, ysbryd tîm a gweithio gyda'n gilydd er lles gorau'r disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar, ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o bod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegiad at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae ein gwefan ysgol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth am yr ysgol.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 a disgrifiwyd gan Estyn fel, ‘Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu tawel, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff yr ysgol ac yn gyfeillgar gydag ymwelwyr.’
Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Tra bo canolbarth Powys yn lle gwych i weithio ynddo, mae’n lle cwbl ragorol i fyw ynddo hefyd gyda chymunedau clos a chyfeillgar ac amgylchedd naturiol godidog. Mae’n hawdd cyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yma ac mae gennym gymaint i’w gynnig ar gyfer ein poblogaeth leol. Mae gennym amrywiaeth eang o gyfleoedd chwaraeon, diwylliannol a chelfyddydol i bob oedran. Mae cyfleoedd am golff, pysgota, cerdded, beicio, beicio mynydd, theatrau, sinemâu, Gŵyl Y Gelli a Sioe Frenhinol Cymru oll ar garreg y drws, ac ystod eang o glybiau a grwpiau yn bodoli i apelio i wahanol oedrannau a diddordebau.
Safeguarding Statement:
Ysgol Calon Cymru is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.