Athro/ Athrawes Gymraeg
Ysgol Calon Cymru – Campws Llanfair-ym-Muallt
32.5awr/ Parhaol
Rydym yn chwilio am Athro/ Athrawes Mamiaith hynod o gymhellgar sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i addysg a phrofiadau dysgu ein holl fyfyrwyr.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i athro / athrawes ysbrydoledig weithio mewn tîm cefnogol ac egniol a byddem yn croesawu ceisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon sydd newydd gymhwyso. Os oes gennych sgiliau trefniadol gwych a’r gallu i weithio ag eraill i godi cyrhaeddiad trwy gymell ac ysbrydoli myfyrwyr, yna hoffem glywed oddi wrthych.
Rydym yn chwilio am arbenigwr medrus a brwdfrydig sy’n angerddol am alluogi’r holl fyfyrwyr i wneud cynnydd arwyddocaol yn y Gymraeg. Rhaid i chi allu cynllunio gwersi sy’n ymgysylltu a gweithio’n gydweithredol ochr yn ochr â staff dawnus a diwyd sy’n ymroddedig tuag at ddarparu cyfleoedd neilltuol i’n myfyrwyr.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol sydd â dealltwriaeth dda o egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a’n strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gymraeg sef Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Bydd gweledigaeth glir gan yr unigolyn cywir o ran dysgu ac addysgu’r Gymraeg, ar y cyd â’r gallu i weithio gydag eraill i arloesi a chodi cyrhaeddiad trwy gymell ac ysbrydoli myfyrwyr.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 sy'n gwasanaethu ardal wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth gweithgar. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm o athrawon a staff cymorth gweithgar, cymwys a phenderfynol. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch at ei gilydd, ysbryd tîm a gweithio gyda'n gilydd er lles gorau'r disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar, ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o bod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegiad at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae ein gwefan ysgol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth am yr ysgol.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 a disgrifiwyd gan Estyn fel, ‘Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu tawel, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff yr ysgol ac yn gyfeillgar gydag ymwelwyr.’
Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Tra bo canolbarth Powys yn lle gwych i weithio ynddo, mae’n lle cwbl ragorol i fyw ynddo hefyd gyda chymunedau clos a chyfeillgar ac amgylchedd naturiol godidog. Mae’n hawdd cyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yma ac mae gennym gymaint i’w gynnig ar gyfer ein poblogaeth leol. Mae gennym amrywiaeth eang o gyfleoedd chwaraeon, diwylliannol a chelfyddydol i bob oedran. Mae cyfleoedd am golff, pysgota, cerdded, beicio, beicio mynydd, theatrau, sinemâu, Gŵyl Y Gelli a Sioe Frenhinol Cymru oll ar garreg y drws, ac ystod eang o glybiau a grwpiau yn bodoli i apelio i wahanol oedrannau a diddordebau.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.