Gwahoddir ceisiadau gan berson brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno a thîm llwyddiannus iawn yn yr adran cefnogi erbyn Medi 1af, 2025. Bydd yn ofynnol i’r unigolyn i gefnogi disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gweithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu/uwch aelodau o’r staff, fel rheol yn yr ystafell ddosbarth gyda’r athro neu’r athrawes; cefnogi mynediad at ddysgu i’r disgyblion, a darparu cefnogaeth gyffredinol i’r athro neu’r athrawes gyda rheolaeth y disgyblion a’r ystafell ddosbarth.
Bydd profiad blaenorol o weithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddymunol a’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Safeguarding Statement:
Ysgol Henry Richard is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.