NEW

Pennaeth Cynorthwyol, Cynhwysiant a Chydlynydd ADY - Ysgol Gynradd Penrhyn Dewi

Cyflogwr
Ysgol Penrhyn Dewi
Lleoliad
St Davids, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
61,198.00
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
29th Ebrill 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1544122
Cyfeirnod y swydd
REQAA7148
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1544122

YSGOL WIRFODDOL A GYNORTHWYIR PENRHYN DEWI

Campws Dewi

Tydewwi

SA62 6QH

Pennaeth Cynorthwyol, Cynhwysiant a Chydlynydd Anghenion Dysgu  Ychwanegol

L7 – L11

 

Mae hon yn swydd amser llawn a pharhaol, a bydd yn dechrau ym mis Medi 2026, neu’n gynt os yn bosibl.

  

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer dysgwyr 3–16 yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi, sy’n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a’r cylch. Wedi’i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae’r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae’r disgyblion a’r staff yn falch o’r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau dysgu gynradd, sydd â 12 lle, a chanolfan adnoddau dysgu uwchradd, sydd â 24 lle, ar gyfer plant ag anghenion dysgu cymhleth.  Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â’r eglwys gadeiriol a’r gymuned leol. Mae’r ardal leol yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac anturus, ynghyd ag ystod eang o weithgareddau diwylliannol, cerddorol a chymdeithasol.

 

Mae’r ysgol yn chwilio am gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol cymwys sy’n frwd dros gynhwysiant, ac sy’n gwbl gyfarwydd â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a datblygiadau cwricwlwm cysylltiedig sy’n digwydd yng Nghymru. Mae’r corff llywodraethu yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig i weithio’n strategol fel rhan o’r Uwch-dîm Gwella, a sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei chyfrifoldebau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, a Deddf Cydraddoldeb 2010, ac ar gyfer diogelu. Croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd hyfforddedig sydd â phrofiad perthnasol.

  

Yn ogystal â phob un o’r uchod, mae arnom angen arweinydd sydd fel a ganlyn:

 

yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sydd â llwyddiant blaenorol, sy’n ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl;

yn frwd dros gynhwysiant, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth a’r ddarpariaeth orau bosibl i wneud y mwyaf o’u potensial;

yn meddu ar weledigaeth ac ysgogiad i sicrhau bod gan bob un o’n disgyblion a’n staff ddyheadau uchel, a’u bod â’r gallu i lwyddo;

yn modelu ac yn meddu ar y sgiliau a’r profiad i reoli ac ysbrydoli staff wrth hyrwyddo cynhwysiant o fewn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi;

yn cefnogi ethos a gwerthoedd Cristnogol ysgol wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru.

 

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cynorthwyo plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch, a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl, yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

  

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y cyngor. Mae diogelu yn ddyletswydd i bawb, p’un a ydynt yn gweithio i’r cyngor neu’n gweithio ar ran y cyngor.

 Dylid cyflwyno ceisiadau i Dîm Adnoddau Dynol Cyngor Sir Penfro erbyn y dyddiad cau, sef 29/04/2026.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Penrhyn Dewi yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Penrhyn Dewi

Ysgol Penrhyn Dewi

Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority