NEW

Swyddog Lles a Chynhwysiant

Cyflogwr
Ysgol Plasmawr
Lleoliad
Tyllgoed, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Graddfa 6 pwynt 19-25 (pro rata)
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
6th Hydref 2025 09:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1507270
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates; Other Graduates
Cyfeirnod y swydd
LlesChwBPTMedi25
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 12 mis
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates; Other Graduates
  • ID swydd: 1507270

Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi swyddog lles a chynhwysiant brwdfrydig ac egnïol i weithio ar draws y tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y Brifddinas fel rhan o bartneriaeth BroPlasTaf. Nod sylfaenol y rôl newydd yma yw cefnogi a mentora disgyblion sydd yn cael hi’n anodd mynychu’r ysgol am ba bynnag resymau (anxious non-attenders).

Mae hon yn swydd â chytundeb 12 mis; 37 awr yr wythnos (8:00-16:00) yn ystod tymor yr ysgol un unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

CYFLOG: GRADD 5 (pwynt 11-19) £28,142-£32,061 pro-rata

Ysgol Plasmawr fydd yn gyfrifol am fuddiannau deiliaid y swydd dros gyfnod y cytundeb ond fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei dyletswyddau a’i gwasanaeth ar draws y tair ysgol uwchradd Cymraeg yng Nghaerdydd; Plasmawr, Glantaf a Bro Edern yn ôl y galw.

Rydym yn chwilio am berson sydd â’r cymwysterau, y medrau, y brwdfrydedd a’r diddordeb i fentora a chefnogi disgyblion o bob oedran (11 – 16 oed) sydd am wahanol resymau yn cael hi’n anodd mynychu’r ysgol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau a / neu’r profiad o weithio gyda disgyblion â phroblemau iechyd meddwl gan gynnwys gor-bryder.

Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer unigolyn sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, gweithiwr ieuenctid neu gymdeithasol, Athro Newydd Gymhwyso (ANG), athro sydd rhwng swyddi neu heb swydd neu gynorthwyydd gradd uchel fyddai’n gyfrifol am weithio gyda theuluoedd y disgyblion sy’n dioddef o gor-bryder, darparu gwaith ysgol iddynt a’u mentora gyda’r gobaith o geisio cael y disgyblion i ail-gysylltu â’r ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at waith timau cynnydd a lles y tair ysgol ac yn cydweithio gyda staff yr ysgolion ac asiantaethau amrywiol eraill gan gynnwys meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaeth ieuenctid er mwyn cynnig pecyn o gymorth penodol i’r disgybl.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru gweithio’n hyblyg ac yn greadigol o ran dyletswyddau; bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.

Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.

*Pro rata = proportional / cymesurol

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.