Cyfnod Mamolaeth / Cytundeb Blwyddyn
Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i swydd i addysgu Gwyddoniaeth a STEM ym Mro Dur o fis Medi 2025 ymlaen. Mae hon yn swydd blwyddyn dros gyfnod mamolaeth.
Mae’r adran Wyddoniaeth wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda chwricwlwm cyffrous a blaengar. Mae cydweithio agos yn digwydd rhwng Gwyddoniaeth a STEM sydd yn annog chwilfrydedd a chreadigrwydd yn ein disgyblion. Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol.
Mae gennym y gallu i fod yn hyblyg gyda’r gwersi y byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn eu haddysgu. Byddai cyfle i arbenigwr pwnc fod yn dysgu gwersi hyd at CA4 (mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg). Mae yna hefyd gyfle i hon fod yn rôl ddatblygol gyda chyfle i ymgeisydd hyblyg, nad yw’n arbenigwr pwnc, fod yn addysgu gwersi ym Mlwyddyn 7 i 9 yn unig, gyda chyfle i hyfforddi a rhannu arfer dda mewn maes lle mae’r addysgu yn gadarn. Os ydych yn athro/athro newydd gymhwyso lle nad Gwyddoniaeth yw eich arbenigedd pynciol – mae potensial i roi cyfleoedd o fewn y rôl yma i fod yn addysgu rhai gwersi tu hwnt i Wyddoniaeth, o fewn eich arbenigedd pynciol.
Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol ac am y cyfnod hynod lwyddianus o Amser Aur bob prynhawn Gwener.
Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i ddysgu gyda ni ym Mro Dur – ac eisiau sgwrs am y posibiliadau sydd ynghlwm â’r rôl hon os ydych yn ANG ac eisiau cyfle i addysgu mewn mwy nag un o bynciau, cysylltwch am sgwrs anffurfiol â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener, Mai 2, 2025
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2025
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.