Derbynnydd Swyddfa’r Ysgol
Lefel 2 Gradd 3 (SCP 3-5) 35 awr / 39 wythnos (pro-rata)
Ydych chi’n berson cyfeillgar, trefnus ac sy’n talu sylw i fanylion? Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur ac yn hoffi rhyngweithio â disgyblion, rhieni a staff? Os felly, hoffem glywed gennych!
Mae Ysgol Gymraeg Bro Dur yn chwilio am Dderbynnydd Swyddfa’r Ysgol i fod yn wyneb croesawgar ein hysgol. Fel y pwynt cyswllt cyntaf, byddwch yn gyfrifol am gyfarch a chynorthwyo disgyblion, rhieni ac ymwelwyr â dull croesawgar a phroffesiynol. Byddwch yn ateb ymholiadau dros y ffôn, yn cyfeirio galwadau at yr adrannau perthnasol, ac yn darparu gwybodaeth hanfodol i'r rhai sydd ei hangen. Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo gyda chofnodion presenoldeb, yn ymdrin â chofrestriadau dyddiol myfyrwyr, ac yn cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol amrywiol i sicrhau rhediad llyfn swyddfa'r ysgol.
Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ogystal â’r gallu i wneud sawl peth ar yr un pryd a chadw trefn mewn amgylchedd prysur. Byddai’n ddymunol bod gennych brofiad o ddefnyddio Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel ac Outlook, yn ogystal â defnyddio offer swyddfa. Er y byddai profiad blaenorol mewn swydd dderbynnydd neu swydd weinyddol—yn enwedig mewn ysgol—yn fantais, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag agwedd gadarnhaol, broffesiynol a chyfeillgar.
Yn Ysgol Gymraeg Bro Dur, rydym yn cynnig cymuned ysgol groesawgar a chefnogol, cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol, ac amgylchedd gwaith deinamig lle nad yw dau ddiwrnod yr un fath.
Os yw’r swydd hon yn berffaith i chi, anfonwch eich CV a llythyr cais i Mrs Ann Llewellyn erbyn 28/04/2025.
Ymunwch fel rhan o’n teulu ysgol—rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gyflogwr cyfle cyfartal sy’n ymroddedig i amrywiaeth a chynhwysiant.
---
School Office Receptionist
Level 2 Grade 3 (SCP 3-5) 35 hours / 39 weeks (pro-rata)
Are you a friendly, organised, and detail-oriented professional? Do you thrive in a fast-paced environment and enjoy interacting with students, parents, and staff? If so, we’d love to hear from you!
Ysgol Gymraeg Bro Dur is seeking a School Office Receptionist to be the welcoming face of our school. As the first point of contact, you will be responsible for greeting and assisting students, parents, and visitors with a warm and professional demeanor. You will handle phone inquiries, direct calls to the appropriate departments, and provide essential information to those who need it. Additionally, you will be assisting with attendance records, handling student check-ins and check-outs, and assisting with various administrative tasks to ensure the smooth operation of the school office.
This role requires excellent communication and interpersonal skills, as well as the ability to multitask and stay organised in a busy environment. Proficiency in Microsoft Office, including Word, Excel, and Outlook, is desired but not essential along with experience handling office equipment. While previous experience in a receptionist or administrative role—especially in a school setting—is preferred, we welcome applications from candidates with a positive, professional, and approachable attitude.
At Ysgol Gymraeg Bro Dur,we offer a welcoming and supportive school community, opportunities for growth and professional development, and a dynamic work environment where no two days are the same.
If this sounds like the perfect role for you, we encourage you to submit your CV and a covering letter to Mrs Ann Llewellyn by 28/04/2025.
Come be a part of our school family—we can’t wait to meet you!
Ysgol Gymraeg Bro Dur is an equal opportunity employer committed to diversity and inclusion.