Swydd parhaol
Swydd ar safle Bro Dur.
Ydych chi'n athro Gwyddoniaeth ysbrydoledig a brwdfrydig sy'n chwilio am her newydd? Yma ym Mro Dur, rydym yn awyddus i benodi athro Gwyddoniaeth deinamig, trefnus a chymwys i ymuno ag Adran Wyddoniaeth gyfeillgar a chefnogol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu ysbrydoli disgyblion drwy eu angerdd dros y pwnc eu egni dros addysgu a dysgu a’u awydd i wneud gwahaniaeth i gyflawniad disgyblion.
Bydd y penodiad yn cychwyn ym mis Medi 2026 ac rydym yn croesawu ceisiadau gan arbenigwyr mewn unrhyw un o’r gwyddorau.
Mae’r adran Wyddoniaeth wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda chwricwlwm cyffrous, blaengar yn CA3 a CA4. Mae cydweithio agos yn digwydd rhwng Gwyddoniaeth a STEM sydd yn annog chwilfrydedd a chreadigrwydd yn ein disgyblion. Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol.
Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol ac am y cyfnod hynod lwyddianus o Amser Aur bob prynhawn Gwener.
Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun Chwefror 23ain 2026
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2026
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.