Pennaeth Blwyddyn / Athro Gwyddoniaeth
CAD 2b
Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn chwilio am Bennaeth Blwyddyn angerddol ac ysbrydoledig sydd ag arbenigedd cryf mewn Gwyddoniaeth, ynghyd â’r gallu arwain a’r ymrwymiad i gefnogi lles, cynnydd ac ymddygiad disgyblion. Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag ysgol flaengar sy’n cynnig profiad addysgol unigryw a chyfoethog.
Am yr Ysgol
Rydym yn ysgol 3–18 oed boblogaidd a ffyniannus, wedi’n lleoli yng Nghwm Tawe, gydag ethos bugeiliol a theuluol sy’n ganolog i’n harlwy. Mae gennym hanes ardderchog o gyflawni llwyddiant academaidd rhagorol, ynghyd ag ymrwymiad cryf i ddarparu ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi i’n disgyblion.
Y Cyfle
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o athrawon hynod ymroddgar sy’n cynnig profiadau o ansawdd uchel i ddisgyblion sy’n cyflawni’n eithriadol o dda. Mae’r Adran Wyddoniaeth yn adran flaengar a llwyddiannus ar lefelau TGAU a Safon Uwch, gan ddenu niferoedd uchel o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 gyda chanlyniadau sy’n parhau i ragori flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
• â gweledigaeth glir o ddysgu ac addysgu dynamig a blaengar;
• yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm brwdfrydig;
• yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol ac angerdd am ddatblygu eraill.
Cyfrifoldebau Arwain
Yn ogystal â’r rôl Athro Gwyddoniaeth, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus arwain grŵp blwyddyn penodol. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
• gweithio’n agos gyda’r tîm lles ac arweinwyr canol;
• monitro cynnydd ac ymddygiad disgyblion;
• cefnogi a gweithredu strategaethau lles;
• ymateb i anghenion unigol disgyblion;
• manteisio ar gyfleoedd sylweddol i ddatblygu sgiliau arwain mewn ysgol fawr, aml-safle.
Eich Dyfodol Gyda Ni
Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer unigolyn uchelgeisiol sy’n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfa addysgu ac arwain. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol cryf sydd yn rhan annatod o ethos yr ysgol ac sy’n cefnogi twf ac uchelgais arweinwyr y dyfodol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies neu os am becyn ymgeisio a ffurflen gais cysylltwch â Mr Martyn Hancock, Rheolwr Busnes yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun Chwefror 23ain 2026
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2026
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.