Arweinydd Maes Iechyd a Lles Safle BRO DUR

School
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Location
Ystalyfera, Neath Port Talbot
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
CAD 2B
Start Date
1st September 2024
Expires
26th April 2024 12:00 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1414455
Job Reference
Iechyd a Lles 2024
Start Date
1st September 2024
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Parhaol
  • Job ID: 1414455

Swydd Ddisgrifiad: Arweinydd Dysgu ac Addysgu - gyda chyfrifoldeb dros waith Maes Iechyd a Lles a chyfrifoldeb ysgol gyfan dros Gwricwlwm ac Achredu Cymwysterau Galwedigaethol yr ysgol

CAD: 2b

Prif nôd y swydd hon yw ysbrydoli ac arwain ar y cyd, arloesedd mewn addysgu o fewn cymuned yr ysgol gan sicrhau fod cynlluniau cwricwlaidd MDaPh Iechyd a Lles yn cymell ein holl ddysgwyr, yn arloesi ac yn ffocysu ar fagu a datblygu hunaniaeth bro dysgwyr Ysgol Gymraeg Bro Dur.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn ymgymryd a’r gwaith o gydlynu cwricwlwm galwedigaethol yr ysgol gan fod a rôl ganolog wrth asesu ac achredu’r cymwysterau hyn yn ogystal a gweithio gyda Phennaeth Cynorthwyol yr ysgol i sicrhau bod ein darpariaeth alwedigaethol yn cwrdd ag anghenion dysgwyr yr ysgol ar unrhyw adeg.

Bydd sicrhau bod prosesau hunan werthuso a chynllunio gwelliant yr ysgol wedi gwreiddio yng ngwaith Maes Iechyd a Lles yn rhan allweddol o’r swydd gan sicrhau llais teilwng i’r holl randdeiliaid.

Mae gwaith gwych wedi digwydd eisoes wrth sefydlu cwricwlwm Iechyd a Lles sydd yn cwrdd â datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y maes ym Mro Dur gan gydbwyso gweithgaredd corfforol a bwyd fel egwyddorion hanfodol i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn datblygu i fod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd yn llawn.

Mae’r gwaith o sicrhau cydbwysedd a chydlyniant yn y modd y mae’r gwaith yma yn cael ei gynllunio a’i ddarparu yn bwrpasol ym Mlwyddyn 7, 8 wedi’i ddechrau a’r cam nesaf fydd gwreiddio’r weledigaeth a’i hymestyn i flwyddyn 9. Mae angen ffocws ar sicrhau fod holl gymuned yr ysgol yn deall ac yn mwynhau byw yn iach.

Mae dysgu ac addysgu rhagorol yn allweddol i sicrhau bod gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru yn cael ei wireddu’n llawn, a nodwedd allweddol o’r rôl hon fydd arwain maes Iechyd a Lles i gynnal y safonau uchel sydd yn bodoli eisoes ac i barhau i arloesi.

Bydd angen arweinydd ysbrydoledig, trefnus a chynhwysol i’r rôl hon, unigolyn sydd yn gallu cydbwyso profiadau holl ystod disgyblion yr ysgol o ddisgyblion MATh i ddisgyblion sydd yn amharod i ymgysylltu â’r maes. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gydlynu cymwysterau Addysg Gorfforol yn CA4 yn ogystal ag ystod lawn yr ysgol o gymwysterau galwedigaethol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel arweinydd llinell i athrawon y maes a’r athrawon sy’n darparu pynciau galwedigaethol. Bydd disgwyl i’r unigolyn sicrhau bod prosesau a manylebau CBAC yn parhau i gael eu dilyn yn llawn a thrylwyr wrth i ni wireddu potensial pob dysgwr yn yr ysgol mewn pynciau Lefel 2 ar draws amrediad o bynciau Addysg Gorfforol a Galwedigaethol.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ond yn fwy na hynny, eich gweledigaeth ar sut y byddwch yn arwain yr elfen hon o ddysgu ac addysgu yn y maes yma yn yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd Gwener 26ain Ebrill 2024

Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2024

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Part of Neath Port Talbot LA

Neath Port Talbot LA